Product on sale

Dan Amor, Dychwelyd Supply

$5

21 people are viewing this right now
17 products sold in last 20 hours
Selling fast! Over 15 people have this in their carts
  • Check Mark Estimated Delivery : Up to 4 business days
  • Check Mark Free Shipping & Returns : On all orders over $200
  • Visa Card
  • MasterCard
  • American Express
  • Discover Card
  • PayPal
  • Apple Pay
Guaranteed Safe And Secure Checkout
#lang1:

Dan Amor grew up in the village of Penmachno, in Dyffryn Conwy. It would seem music runs in the family; his grand-mother won an Eisteddfod chair for her singing during the thirties. Fromer lead singer with pop rock four-piece Gabrielle 25, listeners to BBC Radio Cymru and Radio Wales will be familiar with Dans bittersweet, melodic songs such as Yr Aifft Yn Y r Haul and Cantores Y r Haf . He has has also enjoyed success as a solo artist, his material enjoying airplay in Japan, Europe and America. John Peel played two of his songs, national publication Record collector gave his last EP a positive review.

His debut solo album Dychwelyd (CRAI CD 101) once again sees Dan collaborate with Gorky s Zygotic Mynci founder member John Lawrence, who recorded, produced and played on the album. Other contributors include the DJ Moonmonkey, Drymbago bassist Paul Guest and multi-instrumentalist Nathan Williams. Seldom has a recording process been more exciting. Whilst washing up between takes, John was struck by lightening as he was touching the sink. Dj Moonmonkey fell asleep whislt programming one of the tracks on his laptop, setting fire to his parents house in the process. But Dychwelyd has emerged a joyous album, combining haunting melodies, 70s west coast harmoies and electronic sound-scapes to gorgeous effect.

Dan writes about the weather, people, places.. Dan cites Gwen Berfaith as an unlikely imaginary encounter with a female film star. He wrote Seren Bren as an antidote to depression, for someone very close to him. It was also inspired by a Vincent Van Gough painting. Y Tir A r Tywydd celebrates the dramatic Dyffryn Ogwen, where the album was recorded: If we ever felt the need for inspiration we only had to step outside and look at the mountains. Even when the sun wasn t out it was awe inspiring, the swirlng clouds and weather forever changing . Cofiadau is about a street child in Bangladesh who can t remember anything other than having lived on the streets. He was named by a stranger. Dychwelyd i r Mynyddoedd celebrates and mourns in equal measure, as Dan ruminates on the differences between city and country living.

Tracks –

01 – Can gegin

02 – Seren bren

03 – Gwen berffaith

04 – Nos ar y dre

05 – Dychwelyd i r mynyddoedd

06 – Cofiadau

07 – Be sy n digwydd?

08 – O hyd

09 – Gwaelod y byd

10 – Lluniau du a gwyn

11 – Y tir a r tywydd

12 – Erioed di gweld glaw fel hyn.

 

 

#lang2:

Magwyd Dan Amor ym mhentref Penmachno, Dyffryn Conwy.  Ymddengys bod cerddoriaeth yn rhedeg yn y teulu; enillodd ei Nain gadair Eisteddfod am ei chanu yn y tridegau. Yn gyn brif ganwr gyda’r grwp pop roc Gabrielle 25, bydd gwrandawyr BBC Radio Cymru a Radio Wales yn gyfarwydd â chaneuon chwerwfelys, melodig Dan fel ‘Yr Aifft yn yr Haul’ a ‘Cantores yr Haf’. Mae hefyd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant fel artist unigol, gyda’i ddeunydd yn cael ei chwarae yn Siapan, Ewrop ac America. Chwaraeodd John Peel ddwy o’i ganeuon, a gwelwyd adolygiad positif o’i EP diwethaf yn y cylchgrawn cenedlaethol Record Collector.

Yn ei albwm unigol cyntaf ‘Dychwelyd’ (CRAI CD 101) fe welwn Dan unwaith eto yn cydweithio gydag un o sylfaenwyr Gorky’s Zygotic Mynci – John Lawrence, a recordiodd a chynhyrchodd yr albwm, ac sy’n chwarae arni hefyd. Mae cyfranwyr eraill yn cynnwys DJ Moonmonkey, chwaraewr bâs Drymbago Paul Guest a’r aml-offerynnwr Nathan Williams.

Anaml iawn y mae proses recordio mor ddiddorol. Wrth olchi llestri rhwng recordio caneuon, tarwyd John gan fellten wrth iddo gyffwrdd y sinc. Cwympodd DJ Moonmonkey i gysgu wrth raglennu un o’r traciau ar ei gyfrifiadur, gan roi ty ei rieni ar dân yr un pryd. Ond daeth Dychwelyd allan ohoni yn albwm hwyliog, sy’n cyfuno melodïau hudolus, harmonïau arfordir gorllewinol y 70au a synau electronig i greu effaith ysblennydd.

Mae Dan yn ysgrifennu am y tywydd, am bobl ac am lefydd.. Dywed Dan fod ‘Gwen Berffaith’ yn sôn am gyfarfyddiad annhebygol dychmygus gyda seren ffilmiau fenywaidd. Ysgrifennodd ‘Seren Bren’ fel gwrthwenwyn i iselder i rywun sy’n agos iawn ato. Fe’i hysbrydolwyd hefyd gan ddarlun Vincent Van Gough. Mae ‘Y Tir a’r Tywydd’ yn dathlu ardal odidog Dyffryn Ogwen, ble recordiwyd yr albwm: “Os oedden ni’n teimlo weithiau bod angen ysbrydoliaeth arnon ni, y cwbl oedd eisiau i ni ’i wneud oedd camu allan ac edrych ar y mynyddoedd. Hyd yn oed pan nad oedd yr haul allan roedd yr olygfa’n ddigon i godi ofn arnon ni, gyda’r cymylau a’r tywydd yn newid o hyd”. Mae ‘Cofiadau’ yn sôn am blentyn y stryd ym Mangladesh sy’n methu cofio dim byd oni bai am fyw ar y stryd. Fe’i henwyd gan ddieithryn. Mae ‘Dychwelyd i’r Mynyddoedd’ yn dathlu ac yn galaru yn yr un modd, wrth i Dan fyfyrio ar y gwahaniaeth rhwng byw yn y ddinas a byw yn y wlad.

Traciau –

01 – Can gegin

02 – Seren bren

03 – Gwen berffaith

04 – Nos ar y dre

05 – Dychwelyd i r mynyddoedd

06 – Cofiadau

07 – Be sy n digwydd?

08 – O hyd

09 – Gwaelod y byd

10 – Lluniau du a gwyn

11 – Y tir a r tywydd

12 – Erioed di gweld glaw fel hyn.

Title

Default Title